Mae yna “achos cryf” o blaid newid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ôl panel adolygu annibynnol.

Mewn adroddiad interim sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, mae’r panel yn galw am dreialu dulliau newydd o ofalu mewn sefydliadau ledled Cymru.

Mae’r panel hefyd yn galw am newidiadau eraill i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys gwell defnydd o dechnoleg a symleiddiad trefniadau cyllid.

Cafodd yr adroddiad interim ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ac mae disgwyl bydd adroddiad mwy manwl yn cael ei ryddhau erbyn diwedd y flwyddyn.

“Achos o blaid newid”

“Hoffwn ddiolch [i’r panel] ac i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad hwn hyd yma,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething. “Rwyf hefyd yn croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol i’r adolygiad.”

“Mae hwn yn adroddiad interim llawn gweledigaeth. Mae’r panel, wrth reswm, yn cydnabod ymrwymiad enfawr y gweithlu iechyd a gofal, a llwyddiant sylweddol ei waith.

“Fodd bynnag, mae’n hollol amlwg bod achos o blaid newid y ffordd y dylai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gael eu trefnu yn y dyfodol.”

“Problem sylfaenol”

“Mae hyn yn rhwystredig i mi gan fod yr adroddiad yn dangos yr hyn rydym eisoes yn gwybod,” meddai Rhun ap Iorwerth. “Rydym angen mwy o wasanaethau iechyd cymunedol, mwy o ffocws ar ofal cymdeithasol.”

“Mae’r Llywodraeth Lafur wedi bod yn gweithredu ar y mater yn llawer rhy araf. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur wneud mwy. Wedi dros 18 blynedd mewn grym, mae’n siomedig bod Llafur yn parhau i fynd i’r afael o’r broblem sylfaenol yma yn ein gwasanaeth iechyd.”