Gan fod y we yn ddull mor bwerus o ddysgu erbyn heddiw, “does dim esgus” gan ysgolion i beidio â dysgu sgiliau trin arian i’w disgyblion, yn ôl cyfrifydd o Gaerfyrddin.

Daw’r sylw gan Llŷr James yn ymateb i adroddiad corff arholi ysgolion, Estyn, sy’n awgrymu bod ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru ddim yn rhoi digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau ariannol.

Mae’r adroddiad yn sôn am enghreifftiau da o ysgolion sydd yn darparu “amrywiaeth o weithgareddau” i ddatblygu sgiliau ariannol, ac yn argymell bod ysgolion yn defnyddio’r we fel dull o ddysgu.

Mae’r cyfrifydd, Llŷr James, yn croesawu’r argymhelliad ac yn nodi fod “mwy o adnoddau nag erioed” ar gael er mwyn dysgu sgiliau ei grefft.

“Mwy nag erioed”

“Dw i’n teimlo, gyda’r dechnoleg sydd ar gael yn awr … does dim esgus mewn ffordd i sefydliadau sy’n addysgu pobol,” meddai wrth golwg360. “Dyna gyd sydd angen yw bod un person call yn gwneud gwers ar fideo ac mae ar gael i bawb.”

“Mae’r pethau yma ar gael a dw i’n teimlo bod hi’n bwysig bod plant yn cael yr un cyfle, a bod ysgolion yn ymwybodol o beth sydd ar gael mas ‘na,” meddai.  “Mae mwy o adnoddau nag erioed mas ‘na. Mae mwy a mwy o adnoddau ar lein ac maen nhw’n rhad.”