Heledd Gwyndaf (Llun: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wedi dweud ei bod hi’n “fwy na phosib cyrraedd y filwin o siaradwyr, a hynny cyn 2050″.

“Er mwyn llwyddo, mae angen camau chwyldroadol yn nifer o feysydd – er enghraifft ym maes cynllunio’r gweithlu, yn enwedig y gweithlu addysg,” meddai Heledd Gwyndaf.

“Mae’n golygu normaleiddio ac ehangu addysg Gymraeg ar bob lefel, a hynny’n sylweddol ac ar lefel gyflymach nag erioed o’r blaen…

“Mae hefyd angen strategaeth economaidd chwyldroadol fyddai yn gwyrdroi yr allfudiad anferth sydd yn digwydd o’n cymunedau Cymraeg ni,” meddai wedyn.

“Mae angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar y diwydiannau ac ar waith sy’n gynhenid i Gymru, gan gydnabod y cysylltiad rhwng gwaith a iaith. Dim llai na chwyldro sydd ei angen er mwyn llwyddo.”