Athro Diarmait Mac Giolla Chriost
Mae arbenigwr ar y Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill yn amheus o’r targed i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Dw i ddim yn gweld ar hyn o bryd sut mae’n mynd i fod yn bosib creu hanner miliwn o siaradwyr Cymraeg newydd erbyn 2050,”  meddai’r Athro Diarmait Mac Giolla Chriost wrth golwg360.

“Byddai angen i’r llywodraeth wneud rhywbeth chwyldroadol – rhywbeth sydd ddim wedi cael ei wneud o’r blaen. O beth dw i’n gallu gweld byddai’n rhaid iddyn nhw greu dros 10,000 o siaradwyr Cymraeg newydd bob blwyddyn,” ychwanegodd yr academydd o Brifysgol Caerdydd.

‘Newid agwedd’

Mae o’r farn fod angen troi’r sylw at annog mwy o siaradwyr Cymraeg cyfredol i wneud defnydd o’u hiaith.

“Mae yna dystiolaeth bod llawer mwy o bobol sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg nac sy’n gwneud defnydd o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael,” meddai wedyn.

Cyfeiriodd at wasanaethau’r cynghorau sir, gan ddweud fod “potensial i siaradwyr Cymraeg wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau cyhoeddus yn eu hiaith.”

“Imi, un o’r prif sialensiau yw’r diffyg defnydd o wasanaethau cyhoeddus yn y Gymraeg gan siaradwyr Cymraeg nawr,” meddai gan ddweud fod angen “newid agwedd”.

Addysg

Mae’n ymddangos fod addysg yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth geisio cyrraedd y targed.

Er hyn, dywedodd Diarmait Mac Giolla Chriost fod sicrhau addysg Gymraeg i ddisgyblion “ddim o reidrwydd yn creu pobol fydd yn defnyddio’r Gymraeg”.

“Unwaith maen nhw’n gadael y system addysg mae llawer iawn o’r rheiny yn diflannu o’r Gymraeg – dydyn nhw ddim yn parhau i fod yn siaradwyr Cymraeg,” meddai.

‘Defnyddwyr cyson’

Ag yntau’n frodor o Iwerddon, mae’n cymharu sefyllfa’r Wyddeleg â’r Gymraeg:

“mae modd i’r system addysg yno greu pobol sydd â rhywfaint o sgiliau yn yr iaith Wyddeleg. O gymryd y data fel data cadarn, mi allech honni fod dros filiwn o siaradwyr Gwyddeleg yn Iwerddon.”

“Ond, dyw’r rhan fwyaf o’r rheiny ddim yn bobol sy’n defnyddio’r Wyddeleg yn ymarferol yn eu bywydau bob dydd,” meddai.

“I mi byddai’n well canolbwyntio’n bennaf ar annog pobol sydd yn siarad Cymraeg yn barod i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg sydd gyda nhw a’u troi yn ddefnyddwyr cyson.”