Llun: PA
Mae prosiect fydd yn ceisio darganfod pam y mae cynifer o bobol yng Nghymru yn gwrthod pleidleisio, yn cael ei lansio heddiw.
Bydd prosiect ‘Lleisiau coll’ yn ceisio darganfod agweddau pobol tuag at wleidyddiaeth yng Nghymru ac yn defnyddio amryw o ddulliau, gan gynnwys arolygon ar lein a sesiynau wyneb i wyneb.
Caiff y prosiect ei gynnal ar y cyd rhwng Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS Cymru) ac amryw o sefydliadau eraill gan gynnwys Cymorth Cymru, Llamau a Chwarae Teg.
Bydd darganfyddiadau’r prosiect yn cael eu hadrodd ym mis Hydref.
“Miloedd heb lais”
“Yn ystod yr etholiad cyffredinol bu cynnydd o 3% yn nifer y bobol wnaeth bleidleisio yng Nghymru o gymharu â 2015,” meddai Cyfarwyddwr ERS Cymru, Jess Blair. “Er hynny mae miloedd o bobol yn ein cymdeithas sydd heb lais ar benderfyniadau mawr, ac mae’n rhaid darganfod pam.”
“Bydd y prosiect yma yn cysylltu’n uniongyrchol â phobol sydd yn pleidleisio’n achlysurol neu sydd erioed wedi pleidleisio o’r blaen, fel ein bod ni’n medru darganfod beth sydd angen newid i wneud gwleidyddiaeth yn fwy perthnasol a deniadol.”