Llys y Goron yr Wyddgrug, Llun: Wikipedia
Mae llys wedi clywed fod dyn wnaeth dreisio a llofruddio merch ysgol wedi cuddio’i drosedd am ddeugain mlynedd tra bo dyn arall wedi mynd i garchar yn ei le.

Honnir bod Stephen Hough wedi tagu Janet Commins, 15 oed, i’w marwolaeth yn y Fflint yn 1976.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, fe gafodd Stephen Hough 58 oed ei arestio ar ôl cydweddiad prawf DNA, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug.

Ar y pryd fe wnaeth Noel James, 18 oed, bledio’n euog i ddynladdiad a’i garcharu am 12 mlynedd ar ôl dweud iddo gael ei “orfodi” i wneud cyffesiad ffals gan yr heddlu.

Cydweddiad DNA

Yn y Llys heddiw, fe wnaeth Stephen Hough sy’n gyn-filwr o’r Fflint ac a oedd yn 16 oed ar y pryd, wadu fod ganddo unrhyw beth i wneud â llofruddiaeth Janet Commins.

Diflannodd Janet Commins ar 7 Ionawr 1976 ar ôl gadael nodyn i’w rhieni yn dweud y byddai’n dod adref erbyn 8.30yh y noson honno.

Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, cafodd ei chorff ei ddarganfod mewn llwyn ger Ysgol Gwynedd, oedd yn agos at gartref Stephen Hough ar y pryd.

Cafodd samplau o gelloedd a semen eu codi o’i chorff a’u storio ar fas-data’r heddlu. Yna yn 2016, fe gymerodd yr heddlu sampl o DNA Stephen Hough oedd yn cydweddu â’r samplau a godwyd yn 1976.

Mae Stephen Hough yn gwadu llofruddiaeth, trais a bwbechni rhwng Ionawr 5 a 12 1976, ac mae’r achos yn parhau.