Christina Rees AS (llun o'i gwefan)
Mae Aelod Seneddol Castell-nedd wedi beirniadu galwad Theresa May heddiw i alw am “syniadau a safbwyntiau” gan y gwrthbleidiau.

Ar hyn o bryd, Christina Rees yw llefarydd Cymru ar ran yr wrthblaid ac mae wedi galw cyhoeddiad y Prif Weinidog “yn enghraifft arall o Lywodraeth sydd heb syniadau – a heb fandad yng Nghymru.”

Daw hyn wrth i Theresa May baratoi at araith yn Nhŷ’r Cyffredin yfory lle bydd yn cydnabod ei cholled yn yr Etholiad Cyffredinol gan alw ar y pleidiau i “ddadlau a thrafod” o ran polisïau’r Deyrnas Unedig a Brexit.

Gweithredu yng Nghymru

Dywedodd Christina Rees AS ei bod am weld Theresa May yn gweithredu yng Nghymru ar gyfres o brosiectau gan gynnwys cyflogau, morlyn llanw’r môr, a chyllido Barnett.

“Gall hi weithredu’n awr a rhoi cefnogaeth lawn y Llywodraeth i ddatblygiadau morlyn llanw’r môr yng Nghymru a rhoi terfyn ar yr ansicrwydd ynglŷn â’r prosiectau, a hefyd ymrwymo ar frys i’r angen mawr am drydaneiddio’r rheilffyrdd yng Nghymru,” meddai Christina Rees.

Dywedodd hefyd ei bod am weld Llywodraeth Prydain yn “rhoi terfyn ar gap cyflog y sector cyhoeddus” ynghyd â sicrhau’r cyllid cyfatebol i Gymru yn fformiwla Barnett yn dilyn ei chytundeb £1 biliwn â’r DUP.