Dafydd Iwan
Mae’r canwr a’r ymgyrchydd gwleidyddol, Dafydd Iwan, wedi mynegi fod ganddo “deimladau cymysg” am gynllun Llywodraeth Cymru i  greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd wrth golwg360 ei fod yn pryderu y gallai’r targed “droi yn faen melin am ein gwddf ni os na fydd y Llywodraeth yn cymryd y peth o ddifrif.”

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn lansio eu strategaeth yfory (Dydd Mawrth, Gorffennaf 11) am sut y maen nhw’n bwriadu mynd i’r afael â chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg o fewn 33 o flynyddoedd.

Mwy o adnoddau

Un o’r pethau y mae Dafydd Iwan am eu gweld yn rhan o’r strategaeth ydy “mwy o adnoddau i addysg Gymraeg ac i addysg Gymraeg fel ail iaith.”

“Mae’n rhaid i lywodraeth ganolog a llywodraeth leol godi eu gêm cyn belled ag y mae addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn bod,” meddai.

Er hyn roedd yn cydnabod – “Nid un peth sy’n mynd i gyrraedd y nod, y bobol sy’n mynd i benderfynu yn y pendraw.”

Mae ei sylwadau’n rhan o gyfres gan golwg360 ar drothwy lansio’r strategaeth iaith.