Y darn punt newydd Llun: PA
Mae disgwyl i fwy o’r punnoedd newydd fod mewn cylchrediad yng ngwledydd Prydain erbyn canol y mis hwn o gymharu â’r hen ddarn £1.

Daw hyn wrth i’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant gynhyrchu’r biliynfed darn £1 gyda’r hen ddarn yn colli’i statws erbyn Hydref 15.

Cafodd y darn newydd, 12 ochr, ei ryddhau ym mis Mawrth eleni oherwydd pryder y gallai’r hen ddarnau gael eu ffugio’n haws.

Er bod 800 miliwn o’r hen ddarnau wedi’u dychwelyd, mae ymchwil y Trysorlys yn awgrymu fod gan un ymhob tri o bobol yng ngwledydd Prydain yr hen ddarnau punt yn rhywle.

“Mewn llai na 100 diwrnod, bydd y darn punt cylch yn colli’i statws cyfreithiol. Felly mae angen i bobol wario, bancio neu eu rhoi i elusennau erbyn Hydref 15,” meddai Andrew Jones, Ysgrifennydd y Canghellor fydd yn ymweld â’r Bathdy Brenhinol heddiw.