Llys y Goron Caerdydd
Fe fydd dyn o Lyn-nedd yn cael ei ddedfrydu heddiw ar ôl cyfaddef achosi marwolaeth dyn arall yng nghlwb golff ger Casnewydd y llynedd.

Cafodd Gareth Pugh, 29 oed, ei ganfod mewn llyn yng nghlwb golf Peterstone ger Casnewydd ym mis Chwefror y llynedd. Roedd yn gweithio ar y cwrs golff ac yn casglu peli ar y pryd.

Plediodd Dale Pike, 25 oed, yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod a thorri dyletswydd gofal mewn cysylltiad â marwolaeth Gareth Pugh.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw ac fe wnaeth ei dad, Jonathan Pike, 47 oed, o Aberdâr, bledio’n ddieuog i’r un cyhuddiad mewn gwrandawiad cynt.