Mae’r Tywysog Charles wedi dechrau ei daith flynyddol i Gymru gydag ymweliad â phentref Myddfai yn Sir Gaerfyrddin.
Fe fydd e’n dadorchuddio ffenest wydr lliw yn darlunio arwyr Cymru yn Neuadd Gymunedol y pentref heddiw.
Bydd e hefyd yn ymweld â’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, a’r Fali yn Ynys Môn dros y dyddiau nesaf, yn ogystal â:
- chwmnïau iogwrt yn Aberystwyth a Llannefydd
- Abaty Ystrad Fflur
- Plasty Llancaiach Fawr yng Nghaerffili
- Gerddi Plas Cadnant yn Ynys Môn
- cynhadledd ffermio yng Ngholeg Llanymddyfri
- agor ffatri fio-màs ger Llanbedr Pont Steffan
Bydd e’n aros yn Llwynywermod yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer y daith sy’n para pum niwrnod, ac fe fydd e’n cynnal noson gerddorol yno.