Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Sir Benfro.

Mae seiclwr oedd yn cystadlu mewn triathlon mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gerbyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ym Maenorbŷr toc cyn 12 o’r gloch, a chafodd y seiclwr i gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.