Gari Bevan
Addysg Gymraeg i blant a chynnal cyrsiau Cymraeg i oedolion am ddim y byddai cyn-enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn am weld yn strategaeth Gymraeg y Llywodraeth.
Yn ôl Gari Bevan, a enillodd gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2015, mae angen mwy o athrawon Cymraeg mewn ysgolion, a chyrsiau am ddim i oedolion sydd am ddysgu’r iaith.
“Dw i’n credu ei fod yn amlwg really, rydyn ni angen miliwn o siaradwyr Cymraeg, ni angen mwy o athrawon ac r’yn ni angen nhw nawr,” meddai wrth golwg360.
Dywed ei fod am weld mwy o athrawon Cymraeg ar draws y sector addysg – o oed cynradd hyd at uwchradd.
Cymraeg i oedolion – ‘costus’
Ar ôl penderfynu ei fod am i’w blant siarad yn Gymraeg â fe, aeth ati i ddysgu Cymraeg yn oedolyn, ond dywed bod cost y cyrsiau yn troi pobol i ffwrdd.
“Dw i’n dod o Ferthyr, ac mae lot o bobol yn yr ardal yma eisiau dysgu Cymraeg ond mae’n eitha’ drud ondyw e,” meddai.
“Mae lot o bobol ym Merthyr ac yn y Cymoedd, dydyn nhw ddim yn gallu fforddio fe. So dw i am weld mwy o arian i helpu mas y prifysgolion, achos heb yr arian dw i ddim yn meddwl y bydd yn bosib gwneud e.
Galwodd ar y Llywodraeth i gyflwyno cyrsiau am ddim i oedolion sydd am ddysgu’r Gymraeg.
“Amser dangos bod y Gymraeg yn cŵl”
“Dw i eisiau gweld pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae’n amser nawr i ddangos i bobol bod Cymraeg yn cŵl.
“Rydyn ni’n gallu gweithio gyda fe ac rydyn ni’n gallu defnyddio fe y tu fas i’r dosbarth, mae’n bwysig, mae’n rhan o’n bywyd ni.
“Dw i eisiau dangos i bobol sydd jyst yn siarad Saesneg, mae yn hwyl, ti’n gallu cael hwyl gyda fe a ti’n gallu defnyddio fe.”
Bydd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, yn cyflwyno ei strategaeth ar gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 dydd Mawrth.