Meri Huws
Mae ymgyrchwyr yn galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i bwyso ar Lywodraeth Cymru i roi stop ar y datblygiad tai mwyaf yn hanes Gwynedd.

Mae pwyllgor o bobol sy’n cynrychioli gwahanol fudiadau iaith wedi ysgrifennu at Meri Huws yn gofyn iddi bwyso ar Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, i atal codi cannoedd o dai newydd yn ninas Bangor.

Cafodd cais cynllunio cwmni Morbaine o Swydd Gaer i adeiladu 366 o dai ym Mhenrhosgarnedd, Bangor, ei wrthod ym mis Medi’r llynedd gan Gyngor Gwynedd, a hynny oherwydd yr effaith wael y byddai’n ei gael ar y Gymraeg.

Bu’r cwmni yn apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi dweud ei bod yn ystyried cymeradwyo cais ar gyfer y datblygiad tai dadleuol.

Mae’r Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn yn cynnwys Ieuan Wyn o Gylch yr Iaith, Ruth Richards o Dyfodol i’r Iaith, Geraint Jones o Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai a Dr Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith.

Maen nhw’n ymgyrchu i ennill statws llawn i’r iaith yn y gyfundrefn gynllunio ac wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths yn gofyn iddi ymgynghori â Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies a’r Comisiynydd, Meri Huws.

Yn ôl y grŵp, er i Lesley Griffiths ymateb i’w llythyr, dydy hi ddim yn cyfeirio at hynny, ond ei bod yn “barod i roi ystyriaeth i unrhyw dystiolaeth newydd mewn perthynas â chais cynllunio cwmni Morbaine”.

“Effaith niweidiol ar yr iaith”

Yn eu llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg, mae’r pwyllgor yn dweud: “Roedd asesiad effaith ieithyddol annibynnol ymgynghoriaeth iaith Hanfod o’r datblygiad arfaethedig yn dangos y byddai’n peri gostyngiad yng nghanran siaradwyr Cymraeg y ward, ac yn cael effaith niweidiol ar yr iaith yn y cymunedau cyffiniol.

“Gan fod yr iaith yn ystyriaeth berthnasol statudol bellach o ganlyniad i basio Deddf Gynllunio (Cymru) 2015, a’r iaith yn ystyriaeth ym mhenderfyniad Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wrth wrthod y cais cynllunio, byddem yn falch pe baech yn pwyso ar Alun Davies AC, fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, i gymryd y mater mewn llaw a gofyn eich barn ar y datblygiad.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth golwg360 nad oes penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud eto o ran caniatáu codi’r tai.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Comisiynydd y Gymraeg.