Ar drothwy’r prawf tyngedfennol yfory yn Auckland rhwng Seland Newydd a Llewod Prydain ac Iwerddon, mae Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C wedi brolio bod rhaglen uchafbwyntiau taith y Llewod y Sianel wedi bod “yn hwb i’r Gymraeg”.

Meddai Sue Butler: “Mae pobl wedi gwerthfawrogi’r rhaglenni uchafbwyntiau, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio.

“Mae’r isdeitlau Saesneg wedi cyflwyno ein tîm darlledu  i gynulleidfa newydd i’r cyhoedd newydd ledled y DU ac mae gwylwyr wedi ymateb yn frwdfrydig i’n pyndits a’u barn onest a dadansoddi craff.

“Yn union fel y rhaglenni Ewro 2016 y llynedd, mae wedi bod yn hwb i’r Gymraeg hefyd, gan ddangos ein bod yn cynnig darllediadau o’r ansawdd uchaf yn yr iaith ar S4C.”

Bydd uchafbwyntiau’r trydydd prawf tyngedfennol ar S4C nos yfory am 6.30.

Yn y cyfamser, dyma ragflas y Sianel ar gyfer y gêm:

https://grabyo.com/g/v/ZJyILg0gltj