Gareth Miles
Mae un o ysgrifenyddion cyntaf Cymdeithas yr Iaith am weld y cwricwlwm mewn ysgolion yng Nghymru yn adlewyrchu mwy o hanes a diwylliant Cymru.

Dyna un o’r ffactorau pwysicaf er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai Gareth Miles.

Dywed hefyd bod angen “dysgu Cymraeg yn effeithiol i bobol plentyn” a hynny drwy gydol eu hamser mewn addysg.

Yr wythnos nesaf, bydd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, yn cyhoeddi ei strategaeth ar sicrhau y bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Roedd y targed yn un o addewidion maniffesto’r Blaid Lafur yn ystod etholiadau’r Cynulliad a byddai’n golygu dyblu nifer y siaradwyr sydd ar hyn o bryd.

“Buaswn i’n meddwl mai’r peth pwysicaf ydy dysgu hanes Cymru yn drylwyr i bob disgybl, hyrwyddo adnabyddiaeth o ddiwylliant Cymru i bob disgybl – cerddoriaeth, arlunio – pob agwedd ar ddiwylliant,” meddai Gareth Miles.

“Ac wrth gwrs, dysgu Cymraeg yn effeithiol i bob plentyn o ysgol feithrin i’r brifysgol.”

Addysg – “y peth mwya’ pwysig”

Roedd y dramodydd yn credu mai’r sector addysg oedd y “gyfundrefn fwya’ bwysig” wrth gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

“Nid pasio arholiadau felly ond hyrwyddo adnabyddiaeth o hanes Cymru, o ddiwylliant Cymru ac o iaith Cymru, o ddifrif felly ynte. Dyna’r unig ffordd, dyna beth sy’n digwydd mewn gwledydd eraill.”

Wrth sôn am hanes Cymru yn benodol, dywed bod hi’n enwedig o bwysig i ddysgu disgyblion am hanes Llywelyn Fawr ac Owain Glyndŵr.

“Yn enwedig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, dw i’n meddwl bod hynny’n bwysig. Mae Llywelyn a Glyndŵr a phobol felly yn bwysig iawn, iawn.”