Y bargyfreithiwr, Gwion Lewis
Mae “bwlch mawr” ar gyfer creu rhaglen deledu Gymraeg bob bore ar S4C, ac fe allai gael ei galw’n ‘Bore Da’, yn ôl y bargyfreithiwr, Gwion Lewis.
“Dw i’n meddwl y byddai hynna’n gwneud cyfraniad mawr iawn ledled Cymru i sicrhau bod teuluoedd yn clywed mwy o Gymraeg cyn mynd i’r ysgol a’r gwaith,” meddai wrth golwg360.
Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru baratoi at gyhoeddi eu strategaeth ddydd Mawrth (Gorffennaf 11) am sut y maen nhw’n bwriadu cyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Rhaglen gylchgrawn
Dywedodd Gwion Lewis ei fod yn derbyn y gallai fod “problem ariannol” o ran cyllido rhaglen o’r fath.
Er hyn – “Mae rhywun yn derbyn fod Cyw wedi bod yn llwyddiant mawr yn yr amser yna o’r dydd. Fyddwn i ddim yn awgrymu rhyw raglen hirfaith, dw i’n meddwl bod yna botensial i drafod rhyw fath o raglen newyddion rhwng 8 a 9 yn y bore yn cymryd awr allan o amserlen Cyw a bod ’na ryw fath o raglen gylchgrawn diddorol yn llenwi’r amser yna… fel bod mwy o Gymraeg yn cael ei glywed dros y bwrdd brecwast.”
Mae BBC Breakfast ar BBC Un a Good Morning Britain ar ITV yn rhaglenni Saesneg sy’n profi’n boblogaidd yn ystod boreau’r wythnos.
Radio Cymru 2
Mae’r radio eisoes yn “mynd i’r cyfeiriad yna” meddai Gwion Lewis gan gyfeirio at gyhoeddiad BBC Cymru rhyw bythefnos yn ôl am sefydlu ail orsaf Gymraeg – Radio Cymru 2.
Bydd hyn yn cynnwys sioe frecwast rhwng dydd Llun a dydd Gwener ar setiau radio DAB a BBC iPlayer.
“Mae hynny’n sicr i’w groesawu ond mae yna botensial hefyd i fod yn fwy creadigol ynglŷn â beth rydan ni’n ei wneud ar y teledu yn y bore er mwyn sicrhau bod yna gyd-destun Cymraeg a Chymreig i’r diwrnod ledled Cymru ymysg ein teuluoedd,” meddai.
Mae Gwion Lewis hefyd yn un o banelwyr ‘Cyngor Partneriaeth y Gymraeg’ i gynghori Gweinidogion Cymru am faterion yn ymwneud â’r iaith.