Nia Parry (Llun o'i chyfrif Twitter)
Mwy o fuddsoddi ym maes Cymraeg i Oedolion y mae’r tiwtor iaith, Nia Parry, am weld yn cael ei gynnwys yn strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Mae’r gyflwynwraig hefyd am weld mwy o gyfleoedd i weithwyr adael y gwaith am gyfnod er mwyn dilyn cwrs dwys yn dysgu’r Gymraeg.

Mae disgwyl i Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, gyflwyno cynllun ddydd Mawrth nesaf (Gorffennaf 11) ar sut yn union y mae cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dyma yw targed y Llywodraeth a gafodd ei gynnwys ym maniffesto’r Blaid Lafur cyn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

“Dydi o ddim yn sioc fy mod i’n mynd i bwysleisio pwysigrwydd y garfan hon o bobol, dysgwyr a siaradwyr sydd efallai’n ddihyder,” meddai Nia Parry wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl bod y garfan honna o bobol mor, mor bwysig i ni os ydan ni’n mynd i daro’r nod yma o filiwn o siaradwyr.”

Cynllun Cymraeg Gwaith

Dywedodd ei bod yn falch gweld bod y Llywodraeth eisoes wedi dechrau ar gynllun ‘Cymraeg Gwaith’ sy’n “cynnig cyfleoedd i weithwyr mewn gwahanol sectorau i ddysgu a gwella’u Cymraeg,” yn ôl y wefan.

Ond mae Nia Parry am weld mwy o fuddsoddi yn digwydd i sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd mwy o bobol.

“Mae’n grêt bod y Llywodraeth wedi buddsoddi yn y cynllun Cymraeg Gwaith sy’n mynd i alluogi pobol i fynd ati i ddysgu Cymraeg, naill ai efo cwrs ar-lein 10 awr neu gwrs pum diwrnod o hyd neu ar gyrsiau llawer mwy dwys.

“I fi, mae’r cyrsiau dwys yna o dri mis o gyfnod, lle mae rhywun yn cael ei ryddhau o’r gweithle, yn mynd i fod yn bwerus iawn o ran creu siaradwyr.”

“O werth i bawb”

Dywed Nia Parry, bod “manteision mor bellgyrhaeddol a niferus” wrth fuddsoddi yn y sector dysgu Cymraeg i oedolion.

“Hynny yw, mae rhywun yn gwella fel person achos bod nhw’n datblygu sgiliau, maen nhw wedi yn gallu dod â’r sgiliau yna yn ôl i’r gweithle, maen nhw’n teimlo’r gwerth achos bod y gweithle yn eu cefnogi nhw.

“Felly tasai mwy a mwy o gyfleoedd yn gallu rhyddhau a chefnogi staff i fynd i ddysgu Cymraeg am gyfnodau dwys a dod nôl a defnyddio’r sgiliau yna, dw i’n credu y byddai o werth i bawb.”