Mae cynllun gwerth £6.8m wedi ei lansio gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o sicrhau fod cleifion yng Nghymru yn medru manteisio ar “dechnolegau newydd arloesol” ym myd iechyd.

Bwriad y cynllun yw datblygu gwaith ymchwil mewn geneteg, ac i roi’r wybodaeth i feddygon ac arbenigwyr cyn eu bod nhw’n trin claf.

Mae’r strategaeth hefyd yn gobeithio cyflwyno’r technegau diweddaraf ar gyfer gallu rhagweld pan fydd clefydau yn taro, ac i feithrin gwell dealltwriaeth o’r achosion yma.

“Chwyldroi meddygaeth”

“Mae gan y strategaeth rwy’n ei lansio heddiw botensial i chwyldroi meddygaeth ac iechyd y cyhoedd; mae’n nodi proses o… symud tuag at gyfnod newydd o feddygaeth fanwl,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd llywodraeth Cymru.

“Bydd yn galluogi cleifion trwy Gymru i fanteisio ar y dechnoleg hon ac i gwtogi eu ‘siwrnai ddiagnostig.

“Mae technolegau genetig a genomig yn caniatáu inni feithrin dealltwriaeth lawer manylach o’r cysylltiad rhwng ein genynnau a’n hiechyd.”