Athro Jerry Hunter
Cryfhau addysg Gymraeg yw’r cam cyntaf i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ôl yr Athro o Brifysgol Bangor, Jerry Hunter.

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio eu strategaeth ddydd Mawrth (Gorffennaf 11) ar y gwaith o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg o fewn 33 o flynyddoedd.

Ac yn ôl Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor, a ddaw’n wreiddiol o Cincinnati, Ohio gan ddysgu Cymraeg – “y cam cyntaf yw sicrhau bod ein systemau addysg mewn trefn o ran y Gymraeg.”

Addysg Gymraeg

Dywedodd ei fod yn canmol targed “uchelgeisiol” Llywodraeth Cymru ynghyd â’r gwaith sy’n cael ei wneud i hybu’r Gymraeg mewn addysg.

“Mae isio sicrhau bod ein systemau addysg yn mynd i’r afael â’r Gymraeg o ddifrif a bod ein hysgolion cynradd, uwchradd a cholegau addysg bellach a phrifysgol yn cael eu Cymreigio a bod y Gymraeg yn cael ei dysgu fel pwnc a’i harddel fel iaith fyw yn y sector,” meddai wrth golwg360.

Llangennech

Ychwanegodd fod elfen wleidyddol i addysg Gymraeg gan gyfeirio at y sefyllfa yn Llangennech yn dilyn y ffrae i droi’r ysgol gynradd yno o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol ffrwd Gymraeg.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur edrych i fyw llygaid y gwirionedd anodd a’r ffaith bod eu plaid eu hunain, y blaid Lafur, yn gwrthwynebu agor ysgolion Cymraeg mewn llefydd fel Llangennech,” meddai.

“Mae angen i ddiwylliant gwleidyddol Cymru aeddfedu gyda golwg ar addysg cyfrwng Gymraeg a mynd i’r afael â’r peth o ddifrif.”