Gwalch y pysgod uwch coedwig Hafren eleni (Llun: John Williams)
Mae gweilch y pysgod sy’n nythu yng nghoedwig Hafren wedi llwyddo i fridio am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Fe deithiodd yr adar ysglyfaethus yr holl ffordd o Affrica i’w nyth ger Llanidloes ym mis Ebrill eleni.

Ers hynny, gwelwyd un cyw yn y nyth ac mae ei gynnydd yn cael ei fonitro’n ofalus gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n cofnodi ymddygiad yr adar ac yn cadw golwg ar sut y mae pethau’n datblygu.

Mae wyth o gywion wedi cael eu magu’n llwyddiannus yn y nyth yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Mae’r iâr wedi bod yn bridio ar y safle hwn ers tair blynedd, ond y llynedd oedd y tro cyntaf i’r ceiliog gyrraedd pan heliodd y ceiliog gwreiddiol oddi yno.