Mae Heddlu Dyfed-Powys ac elusen RSPCA Cymru yn apelio am wybodaeth, wedi i tua 20 o gathod gael eu gwenwyno yng Nghilgerran, Sir Benfro.

Ers dydd Mercher diwethaf, mae’r heddlu wedi derbyn wyth adroddiad o wenwyno, a hyd yma mae tair cath o’r ardal wedi marw â symptomau gwenwyno.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae’r cathod wedi’u lladd gan Ethylene Glycol, sef y cemegyn sydd i’w gael mewn chweistrellau i atal i ffenestri ceir rewi, ynghyd â mewn paneli solar.

“Mae hyn yn peri gofid i berchnogion cathod a’r gymuned leol a hoffwn ddweud wrth y cyhoedd bod yr heddlu yn cynnal ymchwiliad,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.

Gwenwyno bwriadol?

Yn ôl RSPCA Cymru, nid yw’n glir os ydy’r cathod wedi eu gwenwyno yn fwriadol. Ond mae’r elusen yn nodi fod y marwolaethau yn dod yn sgil adroddiadau o nifer o gathod lleol yn mynd ar goll.

“Hoffwn atgoffa perchnogion cathod lleol ei bod hi’n bwysig i fod yn wyliadwrus,” meddai ymchwilydd yr RSPCA, Holly Brown.

“Os yw perchenogion yn pryderu bod eu cathod wedi cael eu gwenwyno, ddylen nhw symud yr anifail i ffwrdd o unrhyw ffynhonnell o wenwyn a galw’r milfeddyg yn syth.”