Mae mwyafrif o gleifion canser Cymru yn dweud eu bod yn derbyn gofal o ansawdd uchel, yn ôl arolwg newydd.

Yn ystod yr arolwg cafodd mwy na 6,700 o gleifion eu holi gyda 93% ohonyn nhw’n dweud eu bod wedi cael “profiad cadarnhaol” yn ystod eu triniaeth.

Cafodd yr arolwg ei chynnal ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac un o elusennau mwyaf y Deyrnas Unedig, Cymorth Canser Macmillan.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos y bu gwelliannau mewn meysydd eraill gan gynnwys profiadau cleifion canser yr ysgyfaint.

Ystadegau

  • Roedd 97% o gleifion oedd â dewis o driniaethau yn dweud bod yr opsiynau wedi’u hesbonio iddyn nhw.
  • Roedd 90% o gleifion yn dweud bod eu gofal wedi ei weinyddu yn “dda” neu’n “dda iawn”
  • Roedd 86% o gleifion wedi derbyn enw a manylion cyswllt eu cynorthwyydd personol

Dysgu sut i wella

“Hoffwn ddiolch i’r dros 6,700 o unigolion a roddodd eu hamser i ymateb i’r arolwg,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Diolch i’w hymdrechion nhw, gallwn ddechrau adeiladu darlun o wasanaethau canser yng Nghymru a rhoi manylion pwysig i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd am ffyrdd y gallwn ni i gyd wneud yn well.”