Jack Jones o Ynys Mon sydd ar goll
Mae heddlu’r gogledd yn chwilio am wybodaeth i geisio dod o hyd i fachgen 15 oed ar goll o ardal Amlwch, Ynys Môn.
Cafodd Jack Jones ei weld diwethaf yn mynd ar fws i Fangor tua 1.50yh ddydd Sadwrn, Gorffennaf 1.
Mae’n fachgen 5’8 – 5’10 o daldra gyda gwallt brown, byr.
“Mae ein hymchwiliadau i leoli Jack hyd yn hyn heb ddwyn ffrwyth gyda swyddogion yn gwneud ymholiadau yn lleol o gwmpas Bethesda, Bangor a Chaergybi,” meddai’r Swyddog Catrin Hughes.
“Mae bellach wedi bod ar goll ers pedwar diwrnod heb ddim cysylltiad â theulu, ffrindiau ac mae’r heddlu’n dod yn gynyddol bryderus,” meddai.
Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 17445.