Darren Price Llun: Heddlu Gwent/PA
Mae bachgen yn ei arddegau wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i gorff dyn 41 oed gael ei ganfod mewn tŷ yng Nglyn Ebwy.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i eiddo ar Heol Mount Pleasant yng Nglyn Ebwy ddydd Mawrth diwethaf (Mehefin 27) gan ddod o hyd i gorff Darren Price oedd wedi marw cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd y safle.

Mae bachgen 17 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio a’i ryddhau yn amodol tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.

Mewn datganiad mae Heddlu Gwent yn apelio ar “unrhyw un a oedd yn adnabod Darren Price ac a welodd ef yn yr wythnos cyn ei farwolaeth i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 232 27/6/17.”