Fflatiau twr yn Llundain Llun: PA
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, wneud datganiad pellach yng nghyfarfod llawn y Senedd heddiw ynglŷn â phrofion diogelwch tân yng Nghymru.

Mewn datganiad mynnodd y gweinidog ddoe bod Llywodraeth Cymru yn cymryd “safiad rhagweithiol” ac yn cydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau diogelwch fflatiau tŵr yng Nghymru.

Hefyd, cyhoeddodd y gweinidog ei fod wedi sefydlu grŵp arbenigol “i ddarparu cyngor” ar sut i weithredu newidiadau diogelwch.

Gorchuddion allanol

Daw’r cyhoeddiadau yn sgil trychineb tân Tŵr Grenfell yn Llundain, lle bu farw o leiaf 80 o bobol.

Yn dilyn y trychineb mae awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig wedi bod yn cynnal profion ar orchuddion allanol fflatiau tŵr a all fod yn fflamadwy.

Mae pedwar bloc o fflatiau yn ardaloedd Sgeti a Phenlan yn Abertawe wedi methu’r profion, ond mae Cyngor y ddinas yn mynnu bod y “fflatiau yn cwrdd â’r rheoliadau adeiladu presennol.”