Llun: Gwefan Estyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal er mwyn asesu rôl y corff arolygu ysgolion, Estyn, o fewn maes addysg.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil trafodaeth rhwng yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, a’r Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands.

Pwrpas yr adolygiad yw edrych ar sut fydd y diwygiadau helaeth sydd yn cael eu cyflwyno ym maes addysg Cymru, yn cael effaith ar rôl Estyn yn y dyfodol.

Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan yr Athro Graham Donaldson ac yn dechrau ym mis Awst. Mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn dechrau 2018.

“Cyfoeth o brofiad”

“Rhaid i’n diwygiadau ym maes addysg gefnogi’r gwaith o gyflwyno ein cwricwlwm newydd,” meddai Kirsty Williams.

“Felly, rwy’n hynod o falch bod yr Athro Donaldson wedi cytuno i gynnal yr adolygiad. Mae ganddo gyfoeth o brofiad mewn cynnal adolygiadau o systemau addysg ar draws y byd, gan gynnwys Awstralia, Portiwgal, Sweden a Japan.”

“Rhan hanfodol”

“Mae gan Estyn rhan hanfodol i’w chwarae mewn perthynas â llwyddiant y rhaglen ddiwygio yng Nghymru,” meddai’r Athro Graham Donaldson.

“Felly, rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet a’r Prif Arolygydd wedi gofyn imi gynnal adolygiad annibynnol o’r modd y gall ei gyfraniad at y diwygiadau gael ei wireddu orau.”

Bydd cylch gorchwyl yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi cyn bod hir ar wefan Estyn.

“Rhy arwynebol”

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd wedi croesawu’r cyhoeddiad ond hefyd wedi rhybuddio bod yn rhaid sicrhau nad yw’r adolygiad yn “rhy arwynebol.”

“Mae newidiadau sylweddol yn wynebu cyfanrwydd maes addysg Cymru, ac mae hi yn briodol fod y corff arolygu yn cael ei hadolygu hefyd,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Mae Plaid Cymru wedi bod o blaid newidiadau  i’r drefn arolygu ers cyfnod hir. Ein prif ffocws yw lleihau biwrocratiaeth er mwyn galluogi athrawon i dreulio mwy o amser yn y dosbarth. Dylai arolygiadau ganolbwyntio ar risg yn bennaf.

“Er nad wyf yn cwestiynu arbenigedd yr Athro Donaldson, rhaid bod yn wyliadwrus nad yw’r adolygiad yn un sy’n rhy arwynebol. Rwyf yn sicr y bydd yr Athro Donaldson yn gwrando ar bob llais dros y sector, yn ystod ei waith.”