Mae Cyngor Môn wedi cychwyn ar gyfnod o ymgynghori â’r cyhoedd ynglŷn ag ad-drefnu addysg yn ardal Seiriol o’r ynys.
Mae’r Cyngor yn dymuno “sicrhau bod ysgolion wedi eu lleoli yn y lle cywir ac yn cael eu harwain gan brifathrawon ysbrydoledig sydd â digon o amser arweinyddiaeth i gwblhau’r dasg.”
Er bod yr ymgynghoriad yn un anstatudol (anffurfiol), un o’r ffactorau mwyaf dros alw am yr ad-drefnu yw’r cwymp yn nifer y disgyblion sy’n mynychu Ysgol Gynradd Biwmares – sydd wedi lleihau o 91 yn 2010 i 37 yn 2017.
Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys opsiynau am ddyfodol ysgolion Llangoed a Llandegfan, ond rhai o’r opsiynau ar gyfer ysgol Biwmares, yw:
– Dim newid
– Uno ag ysgol/ysgolion eraill.
– Gwneud cais am arian i adnewyddu’r ysgol.
– Cau’r ysgol a throsglwyddo’r disgyblion i ysgolion eraill.
– Ymestyn Ysgol Biwmares a chau’r ysgolion eraill.
Cychwynnodd yr ymgynghoriad ar 19 Mehefin ac fe fydd yn parhau tan 30 Gorffennaf pan fydd argymhellion yn cael eu paratoi gan swyddogion y Cyngor ar gyfer trafodaethau pellach.