Mae dau ddyn o Newcastle wedi cael eu cyhuddo yn dilyn digwyddiad yng nghanol Caerdydd ddydd Gwener, 30 Mehefin.

Mae un dyn 27 oed wedi ei gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant mewn man cyhoeddus ac o achosi ffrwgwd.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar Awst 1.

Mae dyn 19 wedi ei gyhuddo o fod yn rhan o ffrwgwd ac mae’r heddlu wedi ei gadw yn y ddalfa.

Daw’r cyhuddiadau yn sgil ffrwgwd ar gornel Heol Eglwys Fair, Ffordd Saunders a Ffordd Penarth ar ddydd Gwener.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu a dywedodd Heddlu De Cymru nad oedd y ffrwgwd yn gysylltiedig â chyngerdd cyfagos gan y canwr Justin Bieber, yn Stadiwm Principality.