Carl Sargeant
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, ddiweddaru Aelodau Cynulliad yn ddiweddarach heddiw ar ol i’r gorchudd allanol ar bedwar bloc o fflatiau yn Abertawe fethu profion diogelwch tân.
Mae’r fflatiau yn Sgeti a Phenlan, ac fe ddaw’r newyddion am y profion ar ôl i 149 o flociau fethu’r un profion yn Lloegr.
Cafodd y profion eu cynnal yn sgil trychineb Tŵr Grenfell yn Llundain.
Mae Cyngor Abertawe wedi ymateb drwy ddweud bod y “fflatiau yn cwrdd â’r rheoliadau adeiladu presennol” ac yn galw am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha fath o brofion gafodd eu cynnal ar y deunydd allanol.
“Cwrdd â’r rheoliadau”
“Rydym yn gwybod fod deunydd ar ein blociau yn cwrdd â’r rheoliadau a dydyn ni ddim wedi cael gwybod pa fath o brofion gafodd eu cynnal,” meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart.
“Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru esbonio pa fath o brofion gafodd eu cynnal fel bod pawb, gan gynnwys tenantiaid, yn ymwybodol o’r ffeithiau.”