Llun: Gwefan Cyngor Powys
Mi fydd Cyngor Sir Powys yn trafod dyfodol ffrwd Gymraeg Ysgol Uwchradd Aberhonddu heddiw.

Cynllun gwreiddiol y Cyngor oedd cau’r ffrwd Gymraeg yr ysgol a chanoli’r ddarpariaeth 16 milltir i ffwrdd  o’r safle presennol, yn Llanfair ym Muallt.

Dadl y Cyngor ar y pryd oedd bod y niferoedd sy’n astudio trwy’r Gymraeg yn yr ysgol wedi gostwng dros y blynyddoedd.

Pleidleisiodd cabinet y Cyngor o blaid cau’r ffrwd ym mis Mawrth ond ers hynny mae’r Cyngor wedi derbyn argymhelliad i gadw’r ffrwd Gymraeg yn Aberhonddu.

Yn sgil yr etholiadau lleol mae arweinyddiaeth y Cyngor wedi newid yn llwyr a bellach mae’n cael ei arwain gan glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a’r annibynwyr.

Pryderon

Mae rhieni wedi codi pryderon am y penderfyniad i gau’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu gan rybuddio y gallai arwain at lai o bobol yn astudio drwy’r Gymraeg.

Powys yw un o’r ychydig siroedd yng Nghymru heb ysgol uwchradd benodedig cyfrwng Cymraeg a thrwy gau’r ffrwd Gymraeg byddai Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn troi’n ysgol cyfrwng Saesneg yn unig.