Bu farw’r Prif Lenor Tony Bianchi yn 65 oed.

Mae’n cael ei gofio fel ysgogwr a chefnogwr mwyn, yn ogystal â bardd a nofelydd crefftus.

Er mai yn North Shields yn Tyneside y cafodd ei fagu – roedd yn Geordie balch ac yn gefnogwr Newcastle United – fe ddaeth i’r brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan i astudio a bwrw iddi i ddysgu Cymraeg. Ac yn ei ail iaith y cyhoeddodd y rhan fwyaf o’i lenyddiaeth.

Fe enillodd Pryfeta Wobr Goffa Daniel Owen ym mhrifwyl 2007; a daeth y Fedal Ryddiaith i’w ran yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2015 am y gyfrol Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands.

Cyhoeddodd nofelau eraill, ac un gyfrol o straeon byrion, Cyffesion Geordie Oddi Cartref. Fe gyrhaeddodd y nofel, Esgyrn Bach, restr hir Llyfr y Flwyddyn 2007.

Nid rhyddiaith a cherddoriaeth yn unig oedd yn mynd â’i fryd. Wedi iddo adael ei swydd yn bennaeth adran Llenyddiaeth, Cyngor Celfyddydau Cymru – lle bu’n gyfrifol am grantiau i gylchgronau a chyhoeddiadau Cymraeg – fe ymddiddorodd yn y gynghanedd.

Fe ddaeth ei englynion, yn arbennig, fel chwa o awyr iach i’r sîn farddol draddodiadol Gymraeg, ac fe gipiodd wobr yr Englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn olynol – yn 2002 a 2003.

Roedd Tony Bianchi yn byw ym Mhontcanna, Caerdydd gyda’i gymar, Ruth. Roedd yn dad i ddwy ferch, ac yn dad-cu balch.