Corey Thomas (Llun: Heddlu'r De)
Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad Corey Thomas, 12 oed o Abertawe.

Dydy e ddim wedi cael ei weld ers iddo fe adael ei gartref i fynd i’r Sioe Awyr yn y ddinas am 1.30 brynhawn ddoe.

Mae e’n 5’6″ a chanddo fe wallt golau cyrliog. Roedd e’n gwisgo tracwisg Gym King werdd ac esgidiau rhedeg Adidas gwyrdd.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n gofidio amdano, ac maen nhw’n gofyn iddo fe roi gwybod iddyn nhw neu ei deulu ei fod e’n ddiogel.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.