Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i ganol dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn, i rwystro cerbyd ar gais Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.

Fe gafodd heddlu arfog eu hanfon i Western Avenue – rhag ofn – ac fe gafodd rhan o faes parcio archfarchnad Tesco ar y stryd honno ei gau am gyfnod.

Mae dau ddyn wedi’u harestio ar amheuaeth o drosglwyddo arian yn anghyfreithlon.

Ni chafodd unrhyw arf ei ganfod, a does yna ddim awgrym o gwbwl fod a wnelo’r digwyddiad â brawychiaeth.