Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn yn dilyn marwolaeth dynes yn y Fflint yn ystod oriau mân bore Sadwrn (Gorffennaf 1).
Fe gafodd parafeddygon eu galw i gyfeiriad yn y dref, i drin dynes oedd wedi’i hanafu’n ddifrifol.
Bu’r ddynes farw, yn ddiweddarach, yn y ty.
Mae ymchwiliad bellach ar y gweill, er mwyn ceisio penderfynu sut y cafodd y wraig ei hanafu, ac mae swyddogion yn holi pobol yr ardal ynglyn â threfn digwyddiadau nos Wener a bore Sadwrn.