Athro Elizabeth Treasure
Mae Prifathro Prifysgol Aberystwyth wedi addo fod Adran y Gymraeg ac Astudiaethau y coleg yn saff, gan dweud fod straeon am fygythiad i gyrsiau yno yn “gamarweiniol”.

Ddoe, roedd golwg360 yn adrodd am bryderon y gallai tri darlithydd golli eu swyddi ym meysydd y Gymraeg, y Wyddeleg a’r Llydaweg.

Ond mewn datganiad, meddai Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r awgrym bod dyfodol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y fantol yn gwbl gamarweiniol.

“Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn rhan annatod o genhadaeth Prifysgol Aberystwyth ac rydym yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau.

“Er ein bod ni fel eraill yn y sector yn wynebu heriau ariannol, rydym yn benderfynol o barhau i gynnig y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel rhan bwysig o’n darpariaeth.”

Does yna ddim cyfeiriad yn y datganiad, fodd bynnag, at ddiogelu tair swydd yn yr adran, ac mae hynny yn destun pryder i staff ac i gyn-fyfyrwyr.