Alex Davies
O naw tan bump mae Alex Davies yn optegydd, ond gyda’r nos ac ar benwythnosau, mae’n blogio ac yn cael ei thalu i hybu cynnyrch ar y We.

Mae blogio yn waith llawn amser i gannoedd o bobol yng ngwledydd Prydain, wrth iddyn nhw  ennill miloedd o bunnau am farchnata cynnyrch cwmnïau.

Mae pobol sy’n gallu gwneud bywoliaeth o’r fath yn cael eu hadnabod fel ‘dylanwadwyr’ – influencers – gyda mwy a mwy o fusnesau yn dewis mynd ar y trywydd hwn i farchnata eu cynnyrch.

Blog ffasiwn a theithio sydd gan Alex Davies, 25. Mae dros 4,600 o bobol yn dilyn y ferch o Gaerfyrddin ar Instagram ac yn gweld y lluniau a fideos ohoni’n trafod y ffasiwn ddiweddaraf a’r mannau y bydd yn teithio iddyn nhw.

“Roedd fy ffrindiau i’n dweud, ‘ti wastad yn prynu dillad a cholur, pam nad wyt ti’n gwneud blog amdano fe?’” meddai wrth gylchgrawn Golwg.

“Dw i’n hoffi cadw lan gyda’r trends, felly mae’n gwneud synnwyr i rannu fe.”

Dywed ei bod yn gallu cymryd hyd at ddwy awr i fael y llun perffaith a’i bod fel arfer yn gwneud ‘shoot’ ar ôl ei gwaith neu dros benwythnosau.

“Dw i fel arfer yn [tynnu lluniau] ar ddydd Sul neu ar ôl gwaith, mae’n haws nawr yn yr haf achos bod mwy o olau.

“Mae’n cymryd tua dwy awr i orffen shoot, os ydw i eisiau hybu un outfit, byddwn ni’n edrych am leoliad, mynd yna a sicrhau bod y golau’n iawn. Ry’ch chi’n cymryd tua 200 o luniau i gael pedwar neu bump chi’n hoffi.”

Ennill arian

Dywed Alex Davies ei bod fel arfer yn codi rhwng £45 a £95 os bydd brand yn dod ati yn gofyn iddyn nhw hysbysebu rhywbeth.

Ond petai’n byw yn Llundain, byddai’n gallu gwneud mwy, meddai, a bod gwneud bywoliaeth yn y maes yn “anodd” o orllewin Cymru.

Bydd yr optegydd yn mynd i Zambia yn Ne Affrica ym mis Ionawr i gynnal profion llygad yno gyda’r elusen Vision Aid Overseas a dywed bod unrhyw arian y mae’n gwneud bellach yn mynd i helpu i ariannu’r daith.

“Dw i’n mynd i ddysgu yn y brifysgol a goruchwylio’r clinigau gyda nyrsus a myfyrwyr optometreg. Hefyd, eu dysgu sut i wneud profion llygad a sut i weld pa bresgripsiwn sydd angen ar rywun iddyn nhw gael sbectol.

“Mae 640 miliwn o bobol ledled y byd wedi’u cofrestru’n ddall achos maen nhw ‘mond angen sbectol. Fi’n credu bod ni fan hyn yn cymryd pethau fel hynny yn ganiataol, bod rhywbeth mor fach a gwisgo sbectol, mae e yn gallu newid bywydau.”

Mwy am Alex Davies a chenhedlaeth y ‘dylanwadwyr’ Instagram yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.