Mae un o brif nofelwyr Cymru wedi dweud bod y bwriad posib i ddileu darlithwyr yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yn “gywilyddus”.

Fe ddatgelodd golwg360 heddiw fod y Brifysgol yn bwriadu cael gwared ar dair swydd yn yr adran.

Enillodd Robin Llywelyn radd o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar ddechrau’r 1980au ar ôl astudio’r Gymraeg, Gwyddeleg, Llydaweg a Chernyweg.

“Roedd hi’n adran fywiog a llwyddiannus iawn. Dw i’n siŵr oedd hanner cant os nad 60 yn astudio Cymraeg yn y flwyddyn gyntaf. Roedd hi i’w gweld yn ffyniannus iawn yr adeg hynny,” meddai Robin Llywelyn wrth golwg360.

Dywed bod y bygythiad o golli swyddi a fyddai’n crebachu’r adran ymhellach yn “golled enfawr i Gymru”.

“Mae’n golled enfawr i Astudiaethau Celtaidd yn gyffredinol ac yn golled i Gymru i golli’r arbenigedd i alluogi pobol i ddilyn cwrs yn hanes yr ieithoedd a diwylliannau Celtaidd.

“Mae’n gam gwag enbyd oherwydd os mai mater ariannol yn unig ydy o, wel mae’n dangos bod nhw ddim yn prisio’r diwylliant a’r iaith gynhenid yng Nghymru o gwbl, os ydyn nhw’n  ei wneud o am resymau ariannol.

“Mae eisiau holi be’ ydy gwerth yr adran, be’ ydy gwerth diwylliannol a chenedlaethol. ‘Ydy arian yn bwysicach na dysg?’ ydy’r cwestiwn fan hyn.”

Pryderon dros Adran y Gymraeg

Hefyd mae gan Robin Llywelyn bryderon ynghylch dyfodol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar ôl clywed y newyddion y gallai swyddi fynd.

Mae’r nofelydd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen a Medal Rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, wedi iddo feithrin ei sgiliau ysgrifennu creadigol tra’n fyfyriwr yn yr adran.

“Be’ ydy dyfodol yr adran Gymraeg ei hun yn Aberystwyth os mai dyma ydy agwedd y Brifysgol tuag at yr Adran Geltaidd, oes yna fygythiad i’r Adran Gymraeg?

“Dw i’n meddwl ei fod o’n gywilyddus. Mae gan y Brifysgol ddyletswydd i gynnal diwylliant y wlad y mae hi wedi’i lleoli ynddi.

“Fedrwch chi ddim dadlau bod yr ieithoedd Celtaidd yma ddim yn berthnasol i Gymru. Wrth gwrs eu bod nhw, mae’r iaith Gymraeg yn rhannu hanes ieithyddol a diwylliant efo’r Wyddeleg, y Gernyweg a Gaeleg yr Alban.

“Os na gewn ni adran gref yng Nghymru sy’n dysgu’r pynciau yma, dw’n i’m lle gewn ni. Mae’r peth yn enbyd o unllygeidiog a byr ei olwg.”

Ymateb Prifysgol Aberystwyth

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae’r awgrym bod dyfodol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y fantol yn gwbl gamarweiniol. Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn rhan annatod o genhadaeth Prifysgol Aberystwyth ac rydym yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau. Er ein bod ni fel eraill yn y sector yn wynebu heriau ariannol, rydym yn benderfynol o barhau i gynnig y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel rhan bwysig o’n darpariaeth.”