Dr Catrin Elis Williams
Roedd sesiwn holi yn nhafarn Y Glôb ym Mangor neithiwr, yn cyd-daro â chyflwyno adroddiad yn y Cynulliad Cenedlaethol sy’n argymell sefydlu Ysgol Feddygol ym mhrifysgol y ddinas.

Mae hynny, meddai’r Dr Catrin Elis Williams, yn newyddion da o ran hyfforddi meddygon sy’n siarad Cymraeg, ac sy’n darparu doctoriaid ar gyfer cefn gwlad.

“Mae’r adroddiad sydd wedi’i roi gerbron Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad, yn dweud bod angen recritwio mwy o feddygon, a bod angen canolfan ar gyfer gwneud hynny ym Mangor,” meddai.

“Mae hynny’n golygu y  byddai mwy o fyfyrwyr is-raddedig yn dod i Fangor, ac mae’n newyddion da.”

Ar fater y gost o sefydlu Ysgol Feddygol o’r fath, meddai: “Ydi, mae’n ddrud iawn, ond mae’n ddrud iawn ein bod ni’n talu i locums hefyd. Mi fyddai’n gynllun hir dymor, ac mi fyddai’n fuddsoddiad nid yn union mewn iechyd, ond yn ein cymdeithas ni.

Mae’n bosib gwrando ar y sesiwn gyfan yn fan hyn.