Dafydd Hardy
Mae gwerthwr tai amlwg yng ngogledd Cymru yn credu bod dinas ei fagwraeth yn cael ei gor-ddatblygu, a bod gormod o dai newydd yn cael eu codi.

Yn ôl Dafydd Hardy, does yna ddim digon o sylw ar lle’n union y mae’r angen am dai, a’r holl wasanaethau sydd eu hangen yn sgil y datblygiadau tebyg i gynllun Morbaine i godi 366 o dai newydd ar gyrion Penrhosgarnedd.

“Os ydan ni’n sbio ar Goetre Uchaf (datblygiad arall ym mhentref Penrhosgarnedd), mae yna gannoedd o’r tai yna wedi’u prynu gan fuddsoddwyr sy’n eu rhentu nhw allan… ac mae angen tai ar gyfer teuluoedd ifanc,” meddai.

“Ac os edrychwn ni ar bobol ifanc, maen nhw erbyn hyn tua 35 neu 36 oed yn prynu eu ty cyntaf oherwydd bod cael morgais mor anodd.

“Mae Penrhosgarnedd wedi newid cymaint – strip o dai ydi o erbyn hyn… felly mae o’n un anodd, ac mae angen edrych ar yr adnoddau a’r gwasanaethau.”

Mae Dafydd Hardy hefyd yn codi cwestiwn ynglyn â faint o ‘bontio’, mewn gwirionedd, sydd wedi digwydd rhwng adeilad mawr, newydd, claerwyn, Pontio yng nghanol Bangor, a thrigolion y ddinas ei hun.

“Un peth ddim yn digwydd, ydi’r cyfarfodydd oedd yn arfer digwydd cyn i Pontio agor,” meddai Dafydd Hardy.

“Fel dyn busnes, o’n i’n arfer dod i gyfarfodydd yn y brifysgol, a phwrpas rheiny oedd dweud be’ oedd yn digwydd. Oeddan ni’n cyfarfod pob rhyw bythefnos, ac oedd o’n ffordd i ni gael gwybod be’ oedd yn mynd ymlaen… os fasa hwnna wedi cario ymlaen, mi fasa yna fwy o bontio.”

Fe ddaeth cadarnhad gan yr Athro Jerry Hunter, un o ddirprwy is-ganghellorion y Coleg ar y Bryn, y byddai ‘Cyfarfodydd y Rhanddeiliaid’ yr oedd Dafydd Hardy yn cyfeirio atyn nhw, yn ail-ddechrau yn fuan.

Mae modd gwylio’r drafodaeth yn llawn yn fan hyn.