Mae golwg360 yn deall bod swyddi yn y fantol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ddoe fe gafodd dyfodol y swyddi eu trafod gydag Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure, ac mae disgwyl penderfyniad ar eu tynged yn fuan.

Mae tri o weithwyr  sy’n darlithio ym meysydd y Gymraeg, y Wyddeleg a Llydaweg yn wynebu colli eu swyddi.

Un o’r rhain yw swydd darlithydd sy’n dysgu’r Wyddeleg a ddaeth dan grant o Lywodraeth Iwerddon.

Ddwy flynedd yn ôl fe adawodd chwe darlithydd yr adran ar ôl i’r mwyafrif benderfynu ymddeol neu ymddeol yn gynnar.

Ar y pryd, dywedodd y Brifysgol ei bod yn hysbysebu tair swydd newydd i sicrhau bod “cwricwlwm cyflawn” yn cael ei gynnig.

Daw’r bwriad i dorri swyddi er bod ffigurau bodlondeb ymhlith myfyrwyr yr adran yn 100% yn yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr.

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd hefyd wedi bod ymhlith y goreuon yn rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf am ansawdd yr addysgu ac ymchwil.

Pwysau ariannol

Mae’n debyg mai pwysau ariannol sydd wedi arwain y Brifysgol i ystyried dileu’r, sydd mewn trafodaethau ar hyn o bryd gyda staff dros ddiswyddiadau.

Ddoe, fe gyhoeddodd Prifysgol Bangor fod hyd at 115 o swyddi yn y Brifysgol dan fygythiad.

Ymateb Prifysgol Aberystwyth

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae’r awgrym bod dyfodol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y fantol yn gwbl gamarweiniol. Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn rhan annatod o genhadaeth Prifysgol Aberystwyth ac rydym yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau. Er ein bod ni fel eraill yn y sector yn wynebu heriau ariannol, rydym yn benderfynol o barhau i gynnig y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel rhan bwysig o’n darpariaeth.”