Cefnogwyr Neil McEvoy yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru eleni
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi cadarnhau y bydd yn gorfod talu bron i £9,000 o gostau ar ôl iddo roi’r gorau i’w apêl.

Roedd Neil McEvoy yn apelio yn erbyn dyfarniad tribiwnlys, ei fod wedi bwlio un o weithwyr Cyngor Caerdydd.

Ar ei gyfrif Twitter, dywed ei fod wedi “peryglu” ei allu i gadw ei dŷ mewn achosion cyfreithiol yn y gorffennol, a bod “ffyrdd gwell i barhau â’r frwydr y tro hwn”.

Bydd bellach yn gorfod talu costau o £8,970.

Dywedodd Neil McEvoy wrth golwg360 ei fod yn dal i gredu nad oedd wedi gwneud dim byd o’i le ac nad oedd am beryglu ei dŷ drwy dalu mwy o gostau cyfreithiol.

Mewn datganiad dywedodd fod canlyniadau’r etholiadau lleol yn dangos nad yw’n euog “yn llys y Farn Gyhoeddus”.

Fe gafodd yr Aelod Cynulliad ei ail-ethol yn gynghorydd ar Gyngor Caerdydd ar 4 Mai.

Datganiad Neil McEvoy

Yn egluro ei benderfyniad i dalu’r costau, dywedodd Neil McEvoy:

“Dw i’n teimlo ei fod yn synhwyrol i beidio â pheryglu cartref fy nheulu, fel dw i wedi gwneud yn y gorffennol.

“Yn fwy na hynny, mae degau ar filoedd o arian y trethdalwr eisoes wedi cael ei wastraffu ar yr achos hwn gan yr Ombwdsmon.

“Dw i’n dod â’r camau cyfreithiol i ben ond nid y mater ei hun. Dw i’n meddwl mai’r ffordd fwya’ effeithiol y galla’ i symud pethau ymlaen yw mewn ffordd wleidyddol drwy barhau i ddatgelu’r wladwriaeth un blaid sydd gennym yng Nghymru.

“Dw i ddim yn mynd i barhau i chwarae’r gêm ar eu hamodau nhw.”

Mae ymchwiliad mewnol Plaid Cymru i ymddygiad Neil McEvoy, dan arweinyddiaeth y cadeirydd Alun Ffred Jones, yn parhau.