Mae nifer y marwolaethau sydd yn gysylltiedig ag alcohol wedi gostwng yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymr, bu farw 463 o bobol o ganlyniad i alcohol yn 2015, sydd yn gwymp o gymharu â’r 504 a fu farw yn 2012.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod llai o alcohol yn cael ei yfed, gyda 40% yn yfed mwy o alcohol na’r hyn sy’n cael ei argymell y dydd yn 2015 o gymharu â 44% yn 2010.

Er hyn cynyddodd y nifer o bobol sydd yn marw o glefyd yr afu gan 19.4% i 807 yn 2015, a chynyddodd gwariant ar glefyd yr afu wedi cynyddu o £339.3 miliwn yn 2014-15 i £362.6 miliwn yn 2015-16.

Torri niferoedd

“Yng Nghymru, rydyn ni am dorri ar nifer y bobl sy’n datblygu clefyd yr afu ac sy’n marw ohono,” meddai’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Vaughan Gething.

“Rydyn ni am sicrhau bod pobol o bob oedran yn gwerthfawrogi iechyd yr afu da, a’u bod yn ymwybodol o beryglon goryfed, gordewdra a hepatitis feirysol sy’n cael ei gludo drwy’r gwaed.
“Dylai pawb ysgwyddo’r cyfrifoldeb eu hunain dros y ffordd maen nhw’n dewis byw er mwyn lleihau’r risg o ddatblygu clefyd yr afu y mae modd ei osgoi.”