Swyddfa'r Cymro ym Mhorthmadog (Llun: Kenneth Allen CCA2.0)
Mae golwg360 yn deall y bydd y grŵp sy’n bwriadu prynu papur newydd Y Cymro yn cwrdd ddydd Iau nesaf i drafod y camau nesaf, cyn mynd at Gyngor Llyfrau Cymru i wneud cais am gyllid.

Dywedodd Iestyn Jones, colofnydd gyda’r wythnosolyn ers 12 mlynedd ac sy’n aelod o’r grŵp ‘Cyfeillion Y Cymro’ sydd wedi gwneud cais i gymryd awenau’r Cymro, mai nhw yw’r grŵp y mae cwmni papurau newyddion, Tindle, yn ffafrio.

Dywed y bydd y grŵp, gyda’r rhan fwyaf o’u haelodau yn Nolgellau, yn gwneud cais am arian gan y Cyngor Llyfrau ond doedd e ddim yn gallu datgelu faint yr oedden nhw am ofyn amdano.

Papur bob mis?

Mae’n debyg bod troi’r cyhoeddiad yn bapur newyddion misol yn rhan o gais y grŵp ond roedd Iestyn Jones yn methu â chadarnhau hyn.

Bydd yr unig bapur newydd cenedlaethol Cymraeg ar werth yn y siopau ddydd Gwener a hynny’n fwy na thebyg am y tro olaf ar ei ffurf bresennol.

Dechreuodd Y Cymro gyhoeddi yn 1932.