Cylchffordd Cymru
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price, wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r modd yr oedd Llywodraeth Cymru wedi delio gyda phrosiect trac rasio Cylchffordd Cymru.

Roedd y Llywodraeth yn wreiddiol wedi ystyried gwarantu hanner pris y prosiect £430 miliwn yng Nglyn Ebwy ond yn dilyn cyfarfod ddydd Mawrth penderfynodd gweinidogion na fydden nhw yn ymrwymo i’r prosiect.

Mae Adam Price yn honni fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi “camarwain y cyhoedd” ac wedi cyfeirio at “batrwm o dwyll” yn y modd y gwnaeth Llywodraeth Cymru fynd i’r afael a’r prosiect.

Yn ôl AC Plaid Cymru, roedd Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru yn “dweud celwydd” pan wnaethon nhw honni eu bod wedi anfon cais am warant ychydig ddyddiau cyn gwrthod y prosiect.

Mae Adam Price yn dweud fod ganddo gyfres o e-byst – gan gynnwys e-bost a dderbyniodd gan un o uwch-gyfarwyddwyr cwmni Aviva, sef cwmni oedd yn ystyried ariannu’r prosiect –  sydd yn dangos nad oedd cais wedi ei anfon.

“Camarwain y cyhoedd”

“Gan ein bod yn medru profi bod Prif Weinidog Cymru wedi camarwain y cyhoedd ynglŷn â Chylchffordd Cymru bydd yn rhaid iddo fod yn destun ymchwiliad,” meddai Adam Price.

“Â’r sefyllfa  fel y mae ar hyn o bryd, nid oes modd i unrhyw un – busnes, cyfryngau, senedd neu’r cyhoedd – fod yn hyderus bod y Llywodraeth wedi bod yn onest gyda ni. Dim ond ymchwiliad annibynnol llawn all adfer ffydd y cyhoedd.”

“Ddim yn rhoi gwerth am arian”

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fel yr ydym wedi egluro eisoes, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda’r datblygwyr drwy gydol y broses hon i geisio gwneud yn siŵr bod prosiect Cylchffordd Cymru yn llwyddo yng Nghymru.

“Rhwng Awst 2015 a Mawrth 2016, edrychwyd ar amrywiol opsiynau ariannu ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru rhwng y datblygwyr, awdurdodau lleol a swyddogion Llywodraeth Cymru.

“Yn dilyn y trafodaethau cychwynnol hyn, yr hyn a ddaeth i’r amlwg yn y pen draw oedd cynnig gan y datblygwyr oedd yn gofyn am warant o £357 miliwn gan Lywodraeth Cymru.  Unwaith y rhoddwyd cyngor ffurfiol ar y cynnig i Weinidog yr Economi gynt, gwnaeth y penderfyniad nad oedd yn rhoi gwerth am arian i’r trethdalwr, ac nad oedd yn cydymffurfio â Chymorth Gwladwriaethol.”