Chris Bryant AS Llafur Y Rhondda
Mae Aelod Seneddol Llafur o Gymru wedi dod i’r brig mewn balot blynyddol sy’n rhoi’r cyfle i ASau meinciau cefn gynnig gwelliannau.

Roedd Chris Bryant, AS y Rhondda, ymhlith 20 a gafodd eu dewis ar hap o blith 461 o ASau a oedd wedi cymryd rhan yn y balot, ar ôl i’w enw gael ei dynnu o flwch.

Yr ASau Llafur Steve Reed ac Afzal Khan ddaeth yn ail ac yn drydydd.

Mae Biliau Aelodau Preifat yn cael eu cyflwyno gan Aelodau Seneddol sydd ddim yn aelodau o’r Llywodraeth, gan alluogi i aelodau’r meinciau cefn ac aelodau’r gwrthbleidiau gynnig deddfwriaeth.

Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf yn annhebygol o ddod yn gyfraith gan fod amser yn brin i’w trafod yn San Steffan.

Gan mai Chris Bryant ddaeth i’r brig, ei gynnig e yw’r un fwyaf tebygol o gael ei glywed.

Mae Aelodau Seneddol yn gallu dewis pynciau eu cynigion ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu cyflwyno i Dŷ’r Cyffredin ar 19 Gorffennaf.