Llun: PA
Mae arbenigwyr wedi cyhoeddi cyngor newydd i ferched beichiog er mwyn eu hannog i wneud mwy o ymarfer corff.

Yn ôl prif swyddogion meddygol gwledydd Prydain, dylai merched beichiog geisio gwneud 150 o funudau o ymarfer corff ‘cymedrol’ bob wythnos, yn ogystal ag “ymarferion cryfder a chydbwysedd.”

Gydag un o bob 20 menyw feichiog yn ordew yn y Deyrnas Unedig, bwriad yr argymhellion newydd yw lleihau gordewdra, diabetes a mynd i’r afael â phryderon iechyd i fenywod beichiog.

Ond mae’r swyddogion yn pwysleisio hefyd bod angen i ferched wrando ar eu cyrff ac addasu os bydd angen.

Mae’n debyg mai dyma’r cyngor cyntaf o’i fath yn y byd sy’n annog merched beichiog i wneud ymarfer corff.

Mae ymarfer corff cymedrol yn ei ddisgrifio fel ‘gweithgarwch sy’n gwneud ichi anadlu’n gynt’ wrth barhau i allu cynnal sgwrs.

Ymarfer corff yn ‘dda’ i ferched beichiog

“Mae tystiolaeth gref fod ymarfer corff cymedrol a rheolaidd yn ystod beichiogrwydd yn gallu cynnig manteision sylweddol i fenywod,” meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton.

“Mae hyn yn cynnwys lleihau problemau pwysedd gwaed uchel, helpu i reoli pwysau, gwella cwsg, lleihau’r risg o ddiabetes a gwella’r hwyliau.

“Dyma’r rheswm pam ein bod am sicrhau bod menywod beichiog, a’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n eu cefnogi, yn ymwybodol o fanteision ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd.”

Cynyddu gweithgarwch yn araf

Yn ôl Dr Frank Atherton, dylai menywod beichiog sydd ddim yn gwneud ymarfer corff fel arfer ddatblygu eu lefel gweithgarwch yn araf – dechrau ar 10 munud at ddatblygu’n raddol i 150 munud bob wythnos.

Ond gallai menywod sydd eisoes yn gwneud ymarfer corff rheolaidd barhau i wneud hynny a gwrando ar eu corff i addasu os oes angen.

“Rheol gyffredin i bob menyw feichiog yw os yw’n gyfforddus, gallwch gario ‘mlaen. Os yw’n anghyfforddus, rhowch y gorau iddi a gofynnwch am gyngor.”

Mae disgwyl i’r argymhellion gael eu cyflwyno i wasanaethau iechyd pob gwlad yn y Deyrnas Unedig.

Hyfforddwr personol yn croesawu’r cyngor newydd

Mae Anna Reich yn hyfforddwr ffitrwydd yng Nghaerdydd ac yn disgwyl babi ar hyn o bryd. Mae hi’n croesawu’r argymhellion.

“Mae gordewdra yn beryglus i’r fam ag i’r babi mewn nifer o ffyrdd – byr dymor, hir dymor ag yn anffodus, yn gallu bod yn angheuol,” meddai wrth golwg360.

“Gall corff cryf ac iach ymdopi efo’r beichiogrwydd, y gwahanol bwysau ar y corff, ac yr enedigaeth ei hun yn well na chorff gwan ag afiach.”

Ond mae’n rhybuddio y dylai merched addasu’r math o ymarfer corff maen nhw’n ei wneud.

“Mae unrhyw straen ar eich corff yn cael ei basio ymlaen i’r babi, felly rhaid bod yn fwy ymwybodol o hyn.

“Mae fy sesiynau i ers bod yn feichiog wedi mynd o godi pwysa’ trwm iawn, iawn, i godi pwysa cymedrol, i ddim pwysa’ o gwbl a dim ond ymarferion bodyweight a nofio.

“Mae hwn yn gweddu fi a fy lefel i o ffitrwydd, ond i berson sydd heb godi pwysau neu sydd heb ymarfer cyn bod yn feichiog dwi’n annog ioga beichiogrwydd neu unrhyw ddosbarth arall sydd wedi ei greu ar gyfer genod beichiog.”