Bydd unig bapur newydd cenedlaethol Cymraeg, Y Cymro ar werth yn y siopau dydd Gwener a hynny’n debygol am y tro olaf ar ei ffurf bresennol.

Mae ansicrwydd ynghylch dyfodol y papur 85 oed yn parhau ac er bod rhai prynwyr wedi dangos diddordeb, does dim cadarnhad ei fod wedi’i werthu.

Mae Tindle, sef y perchnogion presennol, eisoes wedi rhoi gwybod i hysbysebwyr y cyhoeddiad ei fod wedi casglu’r hysbysebion ar gyfer eu rhifyn olaf nhw wrth y llyw.

Mae’n debyg y bydd rhifyn fory yn taflu ychydig o oleuni ar ddyfodol yr wythnosolyn.

Trafodaethau prynu’n parhau

Y si yw bod pedwar grŵp wedi dangos diddordeb mewn prynu’r Cymro ac mae trafodaethau rhwng Tindle, y Cyngor Llyfrau a’r prynwyr posib yn parhau.

Un o’r rheini yw cymdeithas newydd o Ddolgellau, sydd wedi bod yn ystyried y posibilrwydd o gymryd yr awenau oddi ar Tindle.

“Mae grŵp ohonom ni yn dod at ein gilydd i drafod y posibiliad. Boed hynny’n unigolyn neu grŵp o bobol yn trefnu’r peth ac yn prynu’r papur,” meddai Gruff Meredith wrth golwg360 ar ddiwedd mis Mawrth.

“Y brif egwyddor ydy, mae’n gyfle gwych i ddod a pherchnogaeth papur Cymraeg yn ôl i berchnogaeth y Cymry achos yn amlwg o’r blaen perchnogion o Loegr oedden nhw.

“Mae’n gyfle gwych i ddod a gwasg annibynnol yn ôl i Gymru, yn sicr mae angen mwy o hynna … Mae ‘di bod ar goll ers amser maith – mae’r egwyddor yn bwysig.”