Fe fydd grŵp ymgyrchu yn cyflwyno deiseb i Gyngor Caerdydd heddiw yn galw am fwy o fuddsoddiad yn yr unig ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerau.

Mae grŵp ymgyrchu ‘Rhieni Ysgol Gymraeg Nant Caerau yn Galw am Newid’, a gafodd ei ail-ffurfio yn ddiweddar, am weld “gwell adnoddau a chyfleusterau” yn Ysgol Gymraeg Nant Caerau.

Mae dros 500 o bobol wedi arwyddo deiseb y grŵp a fydd yn cael ei gyflwyno i’r cyngor ddydd Iau (29 Mehefin).

Agorodd yr ysgol yn 2007 mewn ystafelloedd gwag Ysgol Holy Family ym Mhentre-baen, cyn symud i’r safle presennol a bellach mae 240 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Mae’r grŵp am weld y cyngor yn mynd i’r afael a nifer o broblemau gan gynnwys  diffyg lle yn yr ystafelloedd dosbarth a safon y tir sydd ar gael ar gyfer cynnal gweithgareddau chwaraeon.

Cafodd y grŵp ymgyrchu ei sefydlu yn 2015, er mwyn tynnu sylw at yr un problemau, ond maen nhw’n dweud nad oes yr un ohonyn nhw wedi cael eu datrys yn ddigonol. Dyma fydd yr ail dro iddyn nhw gyflwyno deiseb i Gyngor Caerdydd ar y materion dan sylw.

“Siomi’n fawr”

“Roedd sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn ein cymuned yn un o’r penderfyniadau gorau a wnaed gan y cyngor,” meddai’ Ceri Bailey ar ran ‘Rhieni Ysgol Gymraeg Nant Caerau Yn Galw am Newid’. “Mae plant yr ardal hon wedi cael y cyfle i ddysgu mewn amgylchedd dwyieithog, a fydd yn arwain at ganlyniadau addysgol gwell.”

“Fodd bynnag nid yw anghenion sylfaenol yr ysgol yn cael eu diwallu ar hyn o bryd – yn wir, mae anghenion yr ysgol wedi’u hanwybyddu ers nifer o flynyddoedd. Credwn nad yw anghenion ein plant yn cael eu diwallu a theimlwn fod y Cyngor wedi’n siomi’n fawr.”

Ychwanegodd Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG: “Mae RhAG wedi bod yn galw ar Gyngor Caerdydd i weithredu ers peth amser, yn unol â chyfrifoldebau statudol eu Cynllun Datblygu Addysg Gymraeg.

“Bu diffyg cydberthynas rhwng nifer y rhieni sy’n dymuno cael mynediad at Addysg Cyfrwng Cymraeg, o’i gymharu â nifer y lleoedd a ddarparwyd yn y 5+ mlynedd diwethaf. Mae’r galw yn amlwg yn fwy na’r ddarpariaeth, fodd bynnag, ymddengys nad oes dim yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r sefyllfa.”