Ysgwyd llaw ar y mater - cynrychiolwyr Heddlu Gwent a CWVYS
Mae un o heddluoedd de Cymru wedi arwyddo cytundeb gyda sefydliad ieuenctid er mwyn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â phobol ifanc.

Pwrpas y cytundeb rhwng Heddlu Gwent a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) yw amlinellu’r meysydd lle medr y ddau sefydliad gydweithio.

Trwy gydweithio, mae’r ddau sefydliad yn gobeithio rhoi’r cyfle i bobol ifanc rhwng 11 a 25 fedru dylanwadu ar y math o gyfleoedd a’r gweithgareddau cymunedol sy’n cael eu darparu iddyn nhw.

“Atal a lleihau troseddau”

“Diogelu pobol ifanc gall fod mewn perygl yw un o brif amcanion ein llu,” meddai Uwch-arolygydd Heddlu Gwent, Marc Budden.

“Rydyn ni eisiau adnabod y problemau sy’n wynebu pobol ifanc a’u helpu nhw cyn i’r problemau yna waethygu.

“Rwyf yn hapus iawn i gefnogi’r cytundeb yma rhwng Heddlu Gwent a CWVYS. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wireddu ein nod o amddiffyn pobol rhag niwed ac i atal a lleihau troseddau.”